Cymorth Astudio â Chymorth Cymheiriaid (PASS)

Sesiynau astudio grŵp yw Sesiynau Astudiogyda Chymorth Cymheiriaid dan arweiniad myfyrwyr blwyddyn uwch hyfforddedig (Arweinwyr PASS) ac maent yn darparu amgylchedd diogel i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf drafod syniadau, rhannu problemau a datrys cwestiynau er mwyn gwella eu dealltwriaeth o gynnwys modiwlau. Caiff sesiynau PASS eu hamserlennu'n wythnosol mewn slotiau awr ond nid yw presenoldeb yn orfodol. Mae PASS fel arfer yn gysylltiedig â modiwlau blwyddyn gyntaf y gall myfyrwyr eu cael yn heriol.

Mae'r sesiynau wedi'u seilio ar gynnwys darlithoedd a'u bwriad yw hyrwyddo dysgu cydweithredol a rhoi cyfle i Arweinwyr rannu eu profiadau. Nid yw arweinwyr yn ail-addysgu deunydd ond yn hytrach yn annog myfyrwyr i gymharu nodiadau, egluro'r hyn y maent yn ei ddarllen a'i glywed, ei ddadansoddi, ei feirniadu, ei gwestiynu a'i ddatrys.

Mae adborth gan gyfranogwyr yn awgrymu'n gryf y gall mynychu PASS chwarae rhan mewn gwella perfformiad academaidd a phrofiad myfyrwyr.

Mae rôl Arweinydd PASS yn wirfoddol. Mae Arweinwyr PASS yn derbyn hyfforddiant mewn sgiliau hwyluso ac yn ennill profiad gwerthfawr a all wella cyflogadwyedd.

Cydlynir PASS gan y Gwasanaeth Datblygu Myfyrwyr a Sgiliau Astudio. I drafod posibiliadau PASS yn eich maes pwnc, p'un a ydych chi'n academydd neu'n fyfyriwr, cysylltwch â ni.