Mentoriaid Digidol

Rydym yn chwilio am fyfyrwyr i ymuno â'n timau digwyddiadau a gweinyddol fel Mentoriaid Digidol.

Fel aelod o'r tîm digwyddiadau, byddwch yn gyfrifol am hyrwyddo'r Cynllun Mentora Myfyrwyr. Gallai hyn gynnwys sefydlu a chynnal digwyddiadau, cynnal y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â recriwtio a hyfforddi mentoriaid.

Fel aelod o'r tîm gweinyddol, chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf i fyfyrwyr gysylltu â'r Timau Sgiliau Astudio a Mentora.

Fel rhan o'r rôl hon, byddwch hefyd yn darparu cymorth digidol i fyfyrwyr; cynorthwyo myfyrwyr i ddefnyddio Unilife, Blackboard a Turnitin. Gall hyn ddigwydd fel cymorth un-i-un, hwyluso gweithdai neu e-gefnogaeth.

Nod y rôl yw rhoi cyfle i Fentoriaid Digidol dyfu a datblygu eu sgiliau, a'u paratoi ar gyfer bywyd ar ôl graddio. Mae manteision bod yn Fentor Digidol yn cynnwys rhwydweithio profiad gwerthfawr a datblygu sgiliau. Mae'r rhain yn cynnwys cyfathrebu, gwaith tîm, hyder a sgiliau creadigol a datrys problemau.

Mae pob Mentor Digidol yn cael cynnig cyfleoedd datblygu, ac mae'r rôl yn cyfrannu tuag at GradEdge.

Telir y rôl hon ar y gyfradd Cyflog Byw. Os oes gennych ddiddordeb yn un o'r rolau, darllenwch ddisgrifiadau'r rôl, a gwnewch gais drwy anfon e-bostatom.