GradEdge

GradEdge for CareersConnect

Dyluniwyd y wobr hon i drawsnewid eich cyflogadwyedd, i'ch helpu i ddeall, datblygu a harneisio set wahanol o sgiliau graddedigion. Bydd hefyd yn eich helpu i ddarganfod eich opsiynau gyrfa, cael y swydd rydych chi’n ei dymuno a gwneud llwyddiant ohoni.


Bydd y Wobr, ynghyd â'r set helaeth o adnoddau sydd ar gael yn y Porth MyCareer ehangach yn eich helpu i ddatblygu Rhinweddau Graddedigion PDC gan gynnwys:


  • Ymwybyddiaeth Fasnachol

  • Arweinyddiaeth

  • Cyfathrebu

  • Arloesi a Menter

  • Llythrennedd Digidol

  • Rheoli Prosiectau

Trwy gwblhau Gwobr GradEdge, byddwch yn gwella eich cyflogadwyedd ac yn dangos i gyflogwyr eich bod wedi ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol parhaus. Bydd y sgiliau a'r profiadau sydd gennych chi fel rhan o'r Tîm Mentora Myfyrwyr, yn eich helpu i fodloni gofynion y wobr GradEdge.


Mewngofnodwch heddiw i ddarganfod mwy o fanylion - https://www.abintegro.com/Members

#unilife_cymareg #Mentora_Myfyrwyr