18-10-2019
Mae'n cynnig cyllid i fyfyrwyr israddedig Cymru ym Mhrifysgolion Cymru i ymgymryd â chyfleoedd astudio, gweithio neu wirfoddoli tymor byr mewn ystod o wledydd targed ledled y byd.
Nod y rhaglen yw cynyddu nifer yr israddedigion o Brifysgolion Cymru sy'n ymgymryd â phrofiad rhyngwladol fel rhan o'u hastudiaethau trwy dorri rhwystrau ariannol.
I fyfyrwyr, mae Cymru Fyd-eang Darganfod yn gyfle gwerthfawr i dreulio amser byr dramor, gan adeiladu sgiliau a hyder, gwella cyflogadwyedd a datblygu ymwybyddiaeth ddiwylliannol. Mae cyllid ar gael i gefnogi costau byw a theithio myfyrwyr.