Mae gan PDC gynllun mentora myfyrwyr dan arweiniad cymheiriaid fel bod dechrau yn y Brifysgol mor hawdd a phleserus ag y gall fod. Gall dechrau yn y brifysgol fod yn amser heriol – mae cymaint o wybodaeth i’w darganfod a phethau ymarferol i’w delio â nhw. Yn aml, mae myfyrwyr o dramor yn wynebu gwahanaethau diwylliannol hefyd. Mae ein mentoriaid yn wirfoddolwyr hyfforddedig. Gall myfyrwyr newydd ofyn cwestiynau drwy ebost neu Facebook, hyd yn oed cyn iddynt gyrraedd y campws. Ar ôl cofrestru, gall mentorau a mentoreion gyfarfod wyneb yn wyneb o bryd i’w gilydd a chadw mewn cysylltiad dros y ffôn a drwy ebost.
Mae cynllun Mentora Myfyrwyr yn anelu at: